Math | Taleithiau Tiwnisia |
---|---|
Prifddinas | Monastir |
Poblogaeth | 548,828 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tiwnisia |
Gwlad | Tiwnisia |
Arwynebedd | 1,019 km² |
Cyfesurynnau | 35.78°N 10.83°E |
TN-52 | |
Talaith yng nghanolbarth Tiwnisia yw talaith Monastir. Mae'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y canolbarth ar lan y Môr Canoldir ac mae'n ffinio ar daleithiau Sousse i'r gorllewin a Mahdia i'r de. Monastir yw prifddinas y dalaith a'i dinas fwyaf.
Mae'r dalaith yn ardal sy'n adnabyddus i ymwelwyr o Ewrop fel un o brif ganolfannau twristiaeth yn Nhiwnisia. Ceir traethau llydan braf a nifer o westai ar hyd yr arfordir rhwng dinasoedd Monastir a Sousse. Yn ymyl Monastir ceir maes awyr Monastir, un o'r prysuraf yn y wlad. Ceir ardalaoedd diwydiannol hefyd ac mae amaethyddaeth yn bwysig o hyd i ffwrdd o'r arfordir. Ar ôl ardal Tiwnis Fwyaf, mae'n un o ardaloedd mwyaf datblygedig y wlad.
Ceir rheilffordd leol sy'n cysylltu Monastir a Sousse.